DIGWYDDIADAU
Arddangosfa a Digwyddiadau yn Amgueddfa Ceredigion
Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd parhaol, mae gan yr amgueddfa raglen fywiog o arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro.
Mae’r arddangosfeydd yn rhad ac am ddim; codir tâl am rai digwyddiadau
Gwybodaeth am docynnau 01970 612125
I'R RHAI CHWILFRYDIG LLAWN DIDDORDEB
27 EBRILL - 7 MEDI
10yb - 5yp
Arddangosfa Deithiol Yr Amgueddfa Brydeinig
Mewn cydweithrediad â Lleisiau o'r Ymylon, rydym yn aduno gwrthrychau o gasgliadau'r meddyg a'r naturiaethwr Syr Hans Sloane o'r 17eg a'r 18fed Ganrif, gan edrych ar eu cysylltiadau â hanesion byd-eang sydd wedi'u hen sefydlu, a'r hyn mae hynny yn ei olygu i gynulleidfaoedd heddiw.
£2
27/04/2024 - 07/09/2024
ANNOG CHWILFRYDEDD
Dewch i adnabod y casgliad trwy deithiau, sgyrsiau a sesiynau Dwylo ar Hanes.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr amgueddfa a hanes Ceredigion?
Dewch i ddarganfod rhyfeddodau Amgueddfa Ceredigion gyda chyfres o sgyrsiau, teithiau, cwisiau a’r straeon y tu ôl i’r gwrthrychau.
Ar gael i grwpiau ac unigolion, yn Gymraeg neu Saesneg a gellir ei addasu'n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Am fwy o wybodaeth ac i drafod eich anghenion e-bostiwch amgueddfa@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633088
30/11/2024 - pharhaol
MARY MATHEWS YN Y COLISEUM
DYDD IAU
11yb
Ymunwch â’r pianydd Mary Mathews yn y Coliseum bob bore Iau o 11yb.
Bob dydd Iau mae Mary yn chwarae cymysgedd o ffefrynnau'r teulu. Gan blethu caneuon o sioeau a ffilmiau at ei gilydd mae hi'n gyflym yn creu atgofion o’r amser a fu.
Heb ei rhwymo gan unrhyw genre na chyfnod cerddorol, mae Mary'n archwilio cymysgedd eclectig o donau melodig i berfformio thema o'r wythnos o'i dewis.
Allwch chi ddyfalu'r thema?
AM DDIM
30/11/2024 - pharhaol
DOSBARTH YOGA
DYDD MAWRTH
5.15yp - 6.15yp
Dewch i ddarganfod yr heddwch a’r bodlonrwydd sydd tu mewn i chi, yn dawelwch ein hen adeilad hardd. Ioga ysgafn yn yr awditoriwm ar gyfer pobl ag anawsterau iechyd corfforol sy’n bodoli eisoes.
Cysylltwch â Lesley am fanylion 07929711451
02/12/2024 - pharhaol