1. Hafan
  2. Cymerwch Ran
  3. Gwirfoddoli

Y GWIRFODDOLWYR


Dewch i helpu gwaith yr Amgueddfa trwy wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i'r Amgueddfa ac mae'n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd.

gwirfoddoliMae gwaith y gwirfoddolwyr yn cynnwys:

  • Croesawu ymwelwyr wrth y ddesg flaen
  • Tynnu lluniau o'r casgliad a'i ddigideiddio.
  • Helpu gosod arddangosfeydd a'u tynnu oddi wrth ei gilydd
  • Helpu gyda digwyddiadau gyda'r nos a gweithdai

Beth yw'r fantais i chi?

  • Cwrdd â phobl newydd a gweithio mewn tîm bach a chyfeillgar.
  • Dysgu am hanes Ceredigion, Y Coliseum (cartref yr Amgueddfa) a'r casgliadau
  • Gweld sut mae pethau'n gweithio yn yr Amgueddfa y tu ol i'r llenni
  • Datblygu eich sgiliau a'u rhannu nhw
  • Profiad gwaith unigryw yn yr Amgueddfa at eich CV.

Diddordeb? Cysylltwch ag Amanda yn yr Amgueddfa. Ebost – amanda.partridge@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633088 am fwy o wybodaeth. Fe wnawn ni eich gwahodd chi am sgwrs. Yna gallwn lanw ffurflen gais gyda chi a bydd angen 2 eirda. Cewch ddechrau gwirfoddoli gyda ni pan fydd gwaith gwirfoddol addas ar gael.