Gweithdy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hwyluso mannau diogel ar gyfer trafodaeth agored.
DYDD LLUN 9 MEDI
11.30yb – 3yp
10.00 - 11.30yb bydd yr amgueddfa ar agor i ymweld â’r arddangosfa
Darperir cinio a crèche.
Archebu yn hanfodol
Cysylltwch â carrie.canham@ceredigion.gov.uk i gadw eich lle, rhoi gwybod i ni am unrhyw ofynion dietegol penodol neu archebu lle mewn crèche.
Dyma gyfle i hyd at 30 o bobl ymdrin â’r themâu sy'n codi o'r arddangosfa “I'r rhai chwilfrydig llawn diddordeb”; lle cafodd gwrthrychau o'r Amgueddfa Brydeinig eu cyd-guradu gan grŵp o bobl greadigol o’r mwyafrif byd-eang o'r enw Lleisiau o’r Ymylon.
CREU LLE
Gyda'n gilydd byddwn yn creu lle cefnogol er mwyn gwrando, holi, mynegi, bod yn greadigol ac yn chwareus, gyda chymysgedd o waith mewn grwpiau bach a sgyrsiau mewn grŵp cyfan.
Y BWRIAD
Mae’r themâu sy’n deillio o'r arddangosfa hon ‒ gwladychu, imperialaeth, hiliaeth ‒ yn gallu ein harwain i gau lawr yn amddiffynnol, neu ein hagor i ormodedd o emosiynau – mae'r ddau adwaith yn anghyfforddus. Diwrnod o ystyried drwy brofiad fydd hwn lle byddwn yn cael ein cefnogi i archwilio eich themâu a gweld pa sgyrsiau sy'n codi.
MAE'R DIWRNOD YN GYFLE I:
- Profi a bod yn rhan o greu 'diwylliant o ofal'
- Dysgu sut i gysylltu â ni ein hunain ac â’n gilydd
- Cael yr hyder i archwilio maes anodd gyda'n gilydd
Bydd y sgyrsiau a'r gweithgareddau rhyngweithiol hyn yn cael eu hwyluso gan:
|
|
Yr athronydd ymarferol Ayisha Lanerolle sy'n gweithio yn y celfyddydau. Sefydlodd The Conversation Agency i ganolbwyntio ar greu sgyrsiau sy'n meithrin cysylltiadau a chymuned; sail ei hymarfer yw croesawu a bod yn chwilfrydig ynghylch syniadau. Mae Ayisha yn cynnal sgyrsiau - mewn orielau, amgueddfeydd, o gwmpas y bwrdd cinio, mewn digwyddiadau ac unrhyw le y gellir ailystyried, ailddychmygu ac adrodd straeon. Mae Ayisha yn cyfuno ei chefndir athronyddol gyda phrosesau cydweithredol a democrataidd sy'n croesawu ein gwahaniaethau. Mae Ayisha wedi arddangos ei gwaith yn y Turner Contemporary ym Margate, Gwobr Turner 2019, a Mansions of the Future yn Lincoln. Yn ystod y pandemig bu Ayisha yn gweithio gyda sefydliadau diwylliannol i fyfyrio ar sut mae eu casgliadau yn ein cysylltu â materion dad-drefedigaethu a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'r gwaith hwn wedi arwain Ayisha i chwilio am ffyrdd o ddod â'r corff yn ôl i mewn i'r sgwrs, gan gynnwys sgwrsio â'r tirwedd. Ar hyn o bryd mae Ayisha yn gweithio gyda Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth ar eu strategaeth ymgysylltu fel rhan o ddatblygu’r cynllun ar gyfer Oriel Gyfoes Genedlaethol Cymru. Mae'n archwilio'r berthynas rhwng adrodd straeon a naratif ar raglen blwyddyn o hyd o’r enw Building Our Narrative Power gyda’r Public Interest Research Centre. Mae gwaith cyhoeddedig Ayisha yn cynnwys pennod mewn llyfr, ar y cyd ag eraill, ar gydweithio a chyd-greu mewn orielau, Visitor-Centered Exhibitions and Edu-Curation in Art Museums (Villeneuve a Rowson Love 2017), a darn ar sgwrsio yn gyfraniad i flog Arts Admin, Make Space.
|
|
|
Mae Rose Thorn wedi gweithio mewn sawl rôl fel artist cymunedol, cydlynydd prosiectau a pherfformiwr mewn lleoliadau iechyd, addysgol a gwirfoddol; mae hi'n angerddol ynghylch rôl therapiwtig y celfyddydau i bobl sy'n teimlo yn fynych eu bod heb rym. Mae hi'n berfformwraig ac yn hyfforddwr yn Theatr Playback sy'n rhoi llwyfan i straeon cymunedol drwy 'chwarae'n ôl' ar unwaith yr hyn y mae'r gynulleidfa yn ei rannu. Mae ganddi ddiddordeb mewn sut mae trawma hiliol yn effeithio ar y corff, yr anadl a'r meddwl. Mae hi'n dysgu dosbarthiadau ioga yn lleol ac yn trefnu cyfnodau encil er llesiant.
|
|
|
Artist ar ei brifiant sydd wedi'i leoli yng Nghymru yw Abid Hussein. “Rwy'n ystyried fy nghelf fel creadur byw sy'n fy nhywys yn gyfnewid am faeth a lloches. Mae'n gorwedd 'y tu allan' neu 'rhwng' ffiniau sefydledig Cerflunio, Perfformio, Gosod a disgyblaethau eraill.”
|