Haf o Hwyl
Haf am ddim o hwyl 2022 yn Amgueddfa Ceredigion
Drwy gydol mis Awst, mae Amgueddfa Ceredigion yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen gyffrous AM DDIM o weithgareddau ar gyfer menter ‘Haf o Hwyl’ 2022 Llywodraeth Cymru.
Gallwch chi ystwytho'ch cyhyrau yn y Trychfilod a’r Campau Campus! Ymunwch â Fflic a Flac ar bicnic neu byddwch yn dditectif beiddgar a datrys dirgelwch yr amgueddfa! Ynghyd â gweithdai crefft mae rhywbeth at ddant pawb.
Eglura’r curadur Carrie Canham, “Mae’r amgueddfa’n awyddus i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau a dehongli treftadaeth y sir mewn ffyrdd newydd a chyffrous.”
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio gan Sarah Morton, Swyddog Cynaliadwyedd, Amgueddfa Ceredigion, a ddywedodd, “Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o fenter Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru yng Ngheredigion ac yn gobeithio y bydd yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy ystod o gyfleoedd cyffrous.”
Drwy gydol mis Awst mae'r pecyn hwn o weithgareddau haf i blant a phobl ifanc yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd chwarae, cyfleoedd theatraidd a chyfleoedd diwylliannol AM DDIM i blant a phobl ifanc 0-25 mlwydd oed.
Er mwyn rhag-archebu ar gyfer y digwyddiadau RHAD AC AM DDIM yma, ewch at: https://ceredigionmuseum.wales/digwyddiadau/