1. Hafan
  2. Ymweld
  3. Siop

SIOP


Mae'r Amgueddfa'n cynnal siop unigryw sy'n gwerthu amrywiaeth dda o eitemau gwych sy'n darlunio gorffennol hynod Ceredigion.

Rydym yn cefnogi artistiaid lleol a chrefftwyr o'r ardal drwy werthu eu cynnyrch yn y siop.

Yn siop yr Amgueddfa cewch brynu cardiau post, lluniau, teganau arian poced, eitemau celf a chrefft, ffedogau a thyweli te sydd wedi eu seilio ar gasgliad yr Amgueddfa a llyfrau ffeithiol a hanesyddol. Mae'n lle gwych i ddod o hyd i anrhegion a swfenîrs.

 

Sachau Cryf Caru Aber

Gallwch nawr gael gafael ar rai o Sachau Cryf Caru Aber i helpu i achub y dydd ar ddyddiau casglu gwastraff yn Aberystwyth. Mae’r sachau ar gyfer storio a chyflwyno eich gwastraff ac maent ar gael am £10.50 yr un o siop Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso. Mae’r sachau’n cynnig dewis amgen i finiau olwynion a chynwysyddion eraill lle gall lle storio a mynediad fod yn broblem. Maent yn diogelu’r gwastraff yn well rhag bywyd gwyllt, gan gynnwys gwylanod, yn ogystal â’r tywydd. Efallai y bydd y rheini sy'n prynu'r sachau eisiau eu personoli (rhoi enw/rhif y tŷ ac ati) fel bod eu sachau'n hawdd eu hadnabod wrth eu nôl ar ôl i’r gwastraff yn y sachau gael ei gasglu.