• Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch ar gyfer Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr, gan nodi rhagolygon o wyntoedd peryglus iawn a allai achosi perygl i fywyd.

    O ganlyniad, er mwyn blaenoriaethu diogelwch, mae Cyngor Ceredigion wedi cymryd y penderfyniad i gau yr adeilad yfory ar gyfer staff a defnyddwyr.

  • Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion

    Wrth ymuno â’r Cyfeillion, cewch y cyfle i ddysgu am eitemau a gwrthrychau sy’n rhan o hanes a threftadaeth Ceredigion: www.friendsofceredigionmuseum.com

    Manylion llawn...
  • Darganfod

    EIN TAITH 3D

    Dechreuwch archwilio o gysur eich cartref eich hun


AMGUEDDFA CEREDIGION MUSEUM


 

Annog Chwilfrydedd

Croeso i Amgueddfa Ceredigion a'r hen theatr Edwardaidd hyfryd sy'n gartref iddi. Rydym yng nghanol Aberystwyth nid nepell o'r môr.

Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliadau parhaol a rhai dros dro sy'n archwilio treftadaeth, diwylliant a chelfyddyd Ceredigion. Mae'r Amgueddfa'n agored i bawb: yn hen ac ifanc, o bob lliw a llun.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a'r arddangosfeydd tanysgrifiwch i'n rhestr bostio ni.

 

Edrychwn ymlaen at roi croeso i chi ac ennyn chwilfrydedd y chwilfrydig.