1. Hafan
  2. Casgliadau a Chymuned
  3. Casgliadau

CASGLIADAU


Mae gan Amgueddfa Ceredigion gasgliad o dros 60,000 wrthrychau sy'n darlunio treftadaeth amrywiol Sir Ceredigion.

Mae amrywiaeth anhygoel o eitemau. Er enghraifft, cregyn cnau wedi eu cerfio'n fân gan forwyr a theatr Edwardaidd drillawr ysblennydd y Colisewm. Daw'r darnau cynharaf un o'r Oes Neolithig ac mae'r rhai mwyaf diweddar yn darlunio’r newidiadau fu yn y Sir ers y 1970au.

Mae'r ymroddiad sydd gennym i alluogi pobl i archwilio'r casgliadau er ysbrydoliaeth, addysg a mwynhad yn cael ei gynnal gan ein swyddogaethau craidd sef casglu, dogfennu, cadw a dehongli'r dystiolaeth ffisegol o orffennol Ceredigion ar gyfer y cyhoedd.