1. Hafan
  2. Cymerwch Ran
  3. Cyfeillion

CYFEILLION AMGUEDDFA CEREDIGION


Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn elusen annibynnol (Rhif 506308).

Cawsom ein sefydlu fel 'Cymdeithas', gyda Chyfansoddiad manwl sy’n llywodraethu’n dull o weithio, yn ôl yn yr 1970au. Ein pwrpas elusennol (ein ‘Hamcan’) yw cynorthwyo’r Amgueddfa:

'i addysgu’r cyhoedd drwy hyrwyddo, cefnogi, cynorthwyo a gwella Amgueddfa Ceredigion'

www.friendsofceredigionmuseum.com

Erbyn hyn mae gennym bron i 150 o Aelodau, ac rydym yn trefnu digwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau, gweithgareddau, gwibdeithiau a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym hefyd wedi codi miloedd o bunnau a’u rhoi i’r Amgueddfa yn ystod ein bodolaeth, yn enwedig ar gyfer y prosiect Dulliau Newydd diweddar, a gafodd grant ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Defnyddir yr arian at nifer o ddibenion amrywiol, gan gynnwys cyllid cyfalaf, arian cyfatebol ar gyfer grantiau, prynu eitemau ar gyfer y casgliadau, a gwarchod gwrthrychau’r amgueddfa.