1. Hafan
  2. Digwyddiadau

DIGWYDDIADAU


 

Arddangosfa a Digwyddiadau yn Amgueddfa Ceredigion

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd parhaol, mae gan yr amgueddfa raglen fywiog o arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro.

 

Gwybodaeth am docynnau 01970 612125


I'R RHAI CHWILFRYDIG LLAWN DIDDORDEB

27 EBRILL - 7 MEDI

10yb - 5yp

Arddangosfa Deithiol Yr Amgueddfa Brydeinig

Mewn cydweithrediad â Lleisiau o'r Ymylon, rydym yn aduno gwrthrychau o gasgliadau'r meddyg a'r naturiaethwr Syr Hans Sloane o'r 17eg a'r 18fed Ganrif, gan edrych ar eu cysylltiadau â hanesion byd-eang sydd wedi'u hen sefydlu, a'r hyn mae hynny yn ei olygu i gynulleidfaoedd heddiw.

£2

Arddangosfa
27/04/2024 - 07/09/2024

NOSON GARLLEG

DYDD SADWRN 27  GORFFENNAF

drysau'n agor 6yp

Dewch i ymuno ni am noson fywiog a llawn mynegiant o gerddoriaeth gyfoes, ffilmiau annibynnol ac egni da!

Paratowch eich hunain ar gyfer perfformiadau cerddorol syfrdanol gan Sage Todz, Sachasky, Internet Fatigue ac Osgled. Bydden hefyd yn arddangos ffilmiau byrion gan rai o'r crewyr ffilmiau annibynnol fwyaf disglair a thalentog yng Nghymru.

£6 o flaen llaw

£8 wrth y drws

ARCHEBWCH NAWR

Cerddoriaeth
27/07/2024

CELCIAU CUDD

DYDD MERCHER 31AIN GORFFENNAF

10YB - 4YP - Darganfyddwch y celciau

5.30PM - cyflwyniad gan Chris Griffiths, Amgueddfa Cymru

Does neb yn gwybod yn iawn pwy a'i claddwyd ger Llangeitho tua 1500 o flynyddoedd yn ôl. Mae eitemau o’r trysor hwnnw o’r Oes Efydd, a ailddarganfyddwyd yn 2020, yma drwy’r dydd i chi eu gweld. Dewch i ddarganfod y chwedlau am drysor.

Am 5.30pm bydd Chris Griffiths, Amgueddfa Cymru, yn esbonio'r Celciau Cudd gyda darlith ddarluniadol ac yn disgrifio pam fod y celc mor bwysig i stori Ceredigion.

Prynwyd gyda chymorth oddi wrth Cyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grantiau Prynu V&A

£2

Digwyddiad
31/07/2024

MARY MATHEWS YN Y COLISEUM

DYDD IAU

11yb

Ymunwch â’r pianydd Mary Mathews yn y Coliseum bob bore Iau o 11yb.

Bob dydd Iau mae Mary yn chwarae cymysgedd o ffefrynnau'r teulu. Gan blethu caneuon o sioeau a ffilmiau at ei gilydd mae hi'n gyflym yn creu atgofion o’r amser a fu.

Heb ei rhwymo gan unrhyw genre na chyfnod cerddorol, mae Mary'n archwilio cymysgedd eclectig o donau melodig i berfformio thema o'r wythnos o'i dewis.

Allwch chi ddyfalu'r thema?

AM DDIM

Cerddoriaeth
30/11/2024 - pharhaol

DOSBARTH YOGA

DYDD MAWRTH

5.15yp - 6.15yp

Dewch i ddarganfod yr heddwch a’r bodlonrwydd sydd tu mewn i chi, yn dawelwch ein hen adeilad hardd.  Ioga ysgafn yn yr awditoriwm ar gyfer pobl ag anawsterau iechyd corfforol sy’n bodoli eisoes.

 

 

 

Cysylltwch â Lesley am fanylion 07929711451

 

Gweithdy
02/12/2024 - pharhaol