Perthyn: Archwilio sut y gall casgliadau’r Amgueddfa greu cymuned yng Ngheredigion
Mae Amgueddfa Ceredigion yn rhedeg prosect newydd o’r enw Perthyn
Dwedwch eich barn:
-
Beth sy’n bwysig i chi a’ch cymuned?
-
A ydy casgliadau’r amgueddfa yn adlewyrchu eich gwerthoedd?
Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn £116,000 o gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Rydym yn awr yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ymgynghorwyr i godi’r £2.3 miliwn y mae ei angen i ddiogelu casgliadau treftadaeth unigryw Ceredigion gan sicrhau y gall pob un o drigolion Ceredigion ddod o hyd i rywbeth yng nghasgliad yr amgueddfa sy’n taro tant â’u hymdeimlad o hunaniaeth a’u gwerthoedd, waeth beth fo’u hoedran, eu rhywedd, eu hethnigrwydd, eu credoau, eu rhywioldeb, eu gallu, neu nodweddion eraill y maent yn uniaethu â nhw.
‘I mi mae’r eitem prydferth yma’n dangos sut y gall creadigrwydd gael ei ddefnyddio i ddangos cariad a pherthynas.’ Kim James-Willaims, Swyddog Cyswllt Cymunedol Perthyn
Aelodau Clwb Cardiau Post Aberystwyth yn trafod pam fod cardiau post yn bwysig iddyn nhw.
Rydym yn gweithio gyda’r Common Cause Foundation i archwilio sut y gall gwerthoedd cyffredin adeiladu pontydd rhwng cymunedau amrywiol Ceredigion. Rydym ni eisiau darganfod beth sy’n bwysig i bobl yng Ngheredigion, pam y maent yn bwysig a sut y gall casgliadau’r amgueddfa adlewyrchu eu gwerthoedd.
Bydd y Prosiect hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o roi mynediad i bobl at y casgliad cyfan (dim ond tua 10% sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd) gan gynnwys adeiladu Canolfan Casgliadau Treftadaeth newydd yng Ngheredigion, lle byddai oedolion a phlant yn gallu cael teithiau y tu ôl i’r llenni a mynychu gweithdai.
Bydd y prosiect yn creu pum swydd i gefnogi’r amgueddfa i wneud y canlynol: digideiddio’r casgliadau, ymgysylltu creadigol â’r gymuned, datblygu cynulleidfaoedd, rheoli casgliadau a datblygu sgiliau. Hefyd, bydd gwefan newydd yn cael ei chreu fel y gall pobl gael mynediad at y casgliadau ar-lein.
Pe hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y prosiect cyffrous hwn, anfonwch e-bost atom i’r cyfeiriad canlynol: perthyn@ceredigion.gov.uk
Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych chi.