1. Hafan
  2. Casgliadau a Chymuned
  3. Arddangosfa

ARDDANGOSFA


I'r rhai chwilfrydig llawn diddordeb

Arddangosfa Deithiol gan yr Amgueddfa Brydeinig

27.4.2024 - 7.9.2024

 

Yn ystod ei oes, casglodd y ffisegwr a’r naturiaethwr Syr Hans Sloane (1660-1753) gasgliad helaeth o lyfrau, darluniau, printiau, planhigion, hen bethau a gwrthrychau diwylliannol.

Roedd chwilfrydedd a chasgliadau Sloane wedi digwydd yn ystod cyfnod o gynnydd mewn masnachu byd-eang ac ehangu imperialaidd a threfedigaethol Ewropeaidd a Phrydeinig. Ariannodd ei gasgliadau trwy ei bractis meddygol ac elw o gaethwasiaeth trawsatlantig a’r fasnach gaethiwo a oedd yn masnachu pobl Affricanaidd yn y Caribî a Chyfandiroedd America. Yn 1753 defnyddiwyd ei gasgliad i sefydlu’r Amgueddfa Brydeinig gyda’r nod o ‘fodloni awydd y rhai chwilfrydig.’

Dros 270 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd 25 o’r gwrthrychau  hynny y mae tri sefydliad cenedlaethol bellach yn gofalu amdanynt. Mae’n ystyried sut oedd ei safle proffesiynol wedi llunio twf ei gasgliad ac yn archwilio straeon y rhai roedd Sloane wedi dibynnu arnynt am eu gwybodaeth a’u sgiliau, gan gynnwys pobloedd brodorol a chaethweision, a chasglwyr, fforwyr a naturiaethwyr eraill.

Gan weithio ar y cyd, mae’r Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Ceredigion a Lleisiau o’r Ymylon yn ystyried sut rydym ni’n meddwl ac yn teimlo am waddol Sloane heddiw. Gyda’n gilydd – a thrwy ymatebion creadigol Lleisiau o’r Ymylon – rydym yn ceisio deall y cysylltiadau rhwng y cyfoeth a gynhyrchwyd trwy gaethwasiaeth trawsatlantig a’r gwrthrychau yn ein hamgueddfeydd.

Ymunwch â’n sgwrs. Gyda’n gilydd, gallwn wynebu’r hanes cymhleth y tu ôl i’r casgliadau hyn.