1. Hafan
  2. Llogi Lle
  3. Priodasau

Priodasau


   

Dathlwch eich diwrnod hanesyddol yn Amgueddfa Ceredigion

   

   

   

Mae Amgueddfa Ceredigion yn lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig - mae yma ddwy ystafell odidog i gynnal eich seremoni, bar â thrwydded lawn a dewisiadau o ran y wledd briodas.

 

Awditoriwm y Colisëwm

Agorwyd y lle gyntaf yn 1905 fel Theatr y Colisëwm a chynhaliwyd mwy na 5000 o ddigwyddiadau yn yr awditoriwm a oedd yn cynnwys neuadd gerdd Edwardaidd, ffilmiau cynnar, cyfarfodydd gwleidyddol a chyngherddau.   Ar ôl troi’n sinema yn 1932, gwyliodd trigolion Ceredigion 3800 o ffilmiau yma.  Heddiw, mae’r awditoriwm 3 llawr yn gartref i gasgliad Amgueddfa Ceredigion o gelf a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol y sir.  

Mae lle yma i 100 o westeion, felly cymerwch eich addunedau priodas yn y lleoliad eiconig hwn a’i hanes cyfoethog o Geredigion, gyda’ch ffrindiau a’ch teulu o’ch cwmpas.

 

   

Yr Oriel

Mae’r rhan a neilltuwyd gennym ar gyfer arddangosfeydd dros dro yn hyfryd ac yn fan delfrydol ar gyfer cynnal priodas gartrefol gyda’ch teulu agos a’ch ffrindiau. Mae lle i 50 o bobl eistedd yma, mae’r naws yn ysgafn a golau ac mae’n edrych dros Fae Ceredigion a Thraeth y Gogledd yn Aberystwyth.   Gallai arddangosfa deithiol o waith celf neu arteffactau o gasgliad Amgueddfa Ceredigion a thu hwnt i hynny fod yn y cefndir wrth i chi gymryd eich addunedau priodas.  

Byddem wrth ein boddau’n gweithio gyda chi i wneud eich diwrnod yn un arbennig iawn felly rydym wedi llunio nifer o opsiynau i chi eu hystyried wrth i chi gynllunio’ch pecyn priodas. 

  

Pecyn 1 - Defnydd ecsgliwsif o’r lleoliad am 3 awr

Pecyn 2 - Defnydd ecsgliwsif o’r lleoliad am 6 awr

 

Mae pob priodas yn wahanol felly cysylltwch â’r Amgueddfa i drafod pa becyn fyddai orau ar eich cyfer chi a sut y gellir dod â’ch diwrnod mawr yn fyw.

 

LAWRLWYTHO’R LLYFRYN PRIODASAU

 

Er mwyn trafod cynlluniau eich priodas a’r syniadau sydd gennych, cysylltwch â

Sarah Morton - sarah.morton@ceredigion.gov.uk

Carrie Canham - carrie.canham@ceredigion.gov.uk

Llun gan - Jess Rose     Dillad Dynion - Clive, Aberystwyth     Gwisg Briodas - La Môr Bridal, Llanrhystud     Blodau - Dwrgi Flowers a Tymhorau