• Amgueddfa ar gau

    Bydd Amgueddfa Ceredigion yn cau ei drysau am gyfnod o waith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol.  

    Mae'r gwaith atgyweirio yn cynnwys to newydd, atgyweirio'r nenfwd crog hardd ac ailblastro waliau sydd wedi'u difrodi.  

    Bydd Tŷ Coffi’r Coliseum a’r Ganolfan Groeso (TIC) a’r siop yn parhau ar agor yn ystod y gwaith atgyweirio.

  • Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion

    Wrth ymuno â’r Cyfeillion, cewch y cyfle i ddysgu am eitemau a gwrthrychau sy’n rhan o hanes a threftadaeth Ceredigion: www.friendsofceredigionmuseum.com

    Manylion llawn...
  • Darganfod

    EIN TAITH 3D

    Dechreuwch archwilio o gysur eich cartref eich hun


AMGUEDDFA CEREDIGION MUSEUM


 

Annog Chwilfrydedd

Croeso i Amgueddfa Ceredigion a'r hen theatr Edwardaidd hyfryd sy'n gartref iddi. Rydym yng nghanol Aberystwyth nid nepell o'r môr.

Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliadau parhaol a rhai dros dro sy'n archwilio treftadaeth, diwylliant a chelfyddyd Ceredigion. Mae'r Amgueddfa'n agored i bawb: yn hen ac ifanc, o bob lliw a llun.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a'r arddangosfeydd tanysgrifiwch i'n rhestr bostio ni.

 

Edrychwn ymlaen at roi croeso i chi ac ennyn chwilfrydedd y chwilfrydig.