1. Hafan
  2. Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau


Caiff tocynnau Amgueddfa Ceredigion eu gwerthu yn ôl y telerau a’r amodau canlynol:

 

Eich Tocynnau

Mae Amgueddfa Ceredigion yn cadw’r hawl i gyfyngu ar faint o docynnau sydd ar werth i unigolion.

Ni cheir trosglwyddo’r tocynnau ac ni chaniateir eu gwerthu er budd masnachol.

Nid yw Amgueddfa Ceredigion yn derbyn cyfrifoldeb am docynnau sy’n cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi.

Gellir prynu tocynnau ar-lein a’u hargraffu gartref, eu sganio o ddyfais symudol neu eu prynu’n uniongyrchol o Swyddfa Docynnau a Siop Amgueddfa Ceredigion wrth ochr Canolfan Groeso Ceredigion.

 

Ad-dalu a Chyfnewid

Gyda phrawf eich bod wedi prynu’r tocyn, bydd Amgueddfa Ceredigion yn hapus i ad-dalu neu gyfnewid eich tocyn di-angen unrhyw bryd hyd at ddiwrnod y digwyddiad.

 

Consesiynau

Fel canllaw, mae’r gyfradd hon ar gael ar gyfer pobl 65+ sydd wedi ymddeol yn llwyr, pobl iau na 16, myfyrwyr llawn-amser, y di-gyflog, rheiny sy’n derbyn credydau treth gwaith, pobl anabl. Mae’r cyfraddau consesiwn yn gallu amrywio ac nid oes modd i ni gynnig gostyngiad ar gyfer pob digwyddiad.

Dim ond un consesiwn sy’n gymwys yn achos pob tocyn. Efallai y byddwn yn gofyn am brawf eich bod yn gymwys wrth i chi brynu neu ar ddiwrnod y perfformiad. Rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau - wrth ichi brynu - p’un a ydych yn gymwys am gonsesiwn oherwydd ni ellir cynnig y cyfraddau gostyngol ar ôl ichi brynu.

 

Cyfyngiadau

Efallai fydd gan rai perfformiadau neu ddigwyddiadau gyfyngiadau o ran oedran – gwiriwch cyn prynu eich tocynnau.

Rhaid prynu unrhyw ddiodydd neu fwydydd ym mar trwyddedig Amgueddfa Ceredigion neu yn Nhŷ Coffi’r Coliseum.

 

Eich Ymweliad

Er ein bod yn gwneud ein gorau i roi mynediad i hwyrddyfodiaid ar adeg addas yn ystod y perfformiad, ni allwn warantu y bydd modd cael mynediad bob tro.

Efallai y cynhelir chwiliadau diogelwch cyn rhai perfformiadau neu ddigwyddiadau.

Rhaid i blant o dan bedair ar ddeg oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Er lles y cwsmeriaid i gyd, cyfrifoldeb y rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr ac athrawon fydd grwpiau plant ac ysgolion a dylent sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gymwys ym mhob rhan o’r adeilad.

Drwy ddod i’n lleoliad, rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio neu eich llun wedi’i dynnu fel aelod o’r gynulleidfa. Efallai y caiff ei ddefnyddio yn y dyfodol at ddibenion marchnata.

Ni all Amgueddfa Ceredigion dderbyn cyfrifoldeb am eiddo personol y bydd pobl yn ei gludo gyda nhw.

Mae defnyddio camerâu, offer recordio a ffonau symudol wedi’i wahardd yn llwyr yn yr awditoria.

Defnyddir teledu cylch cyfyng yn Amgueddfa Ceredigion drwyddi draw er mwyn atal a datrys troseddau.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon penodol ynghylch telerau ac amodau Amgueddfa Ceredigion, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01970 612125.

Tocynnau anrheg - Amodau defnyddio

  1. Dim ond am gynhyrchion sydd ar werth yn Siop Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso y gellir defnyddio tocynnau anrheg. Ni ellir defnyddio tocynnau anrheg yng Nghaffi’r Colisëwm gan ei fod yn fusnes annibynnol.
  2. Bydd tocynnau anrheg yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad eu rhoi, hyd yn oed os yw'r balans yn parhau i fod heb ei ddefnyddio. Bydd tocynnau anrheg a gyflwynir ar ôl eu dyddiad dod i ben yn cael eu trin yn ddi-rym ac nid ydynt yn gyfnewidiadwy ac ni ellir eu had-dalu.
  3. Ni fydd Siop Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso yn gyfrifol os bydd tocynnau yn cael eu colli, eu dwyn, eu dinistrio neu eu defnyddio heb ganiatâd.
  4. Os yw'ch pryniant yn fwy na gwerth y tocyn anrheg, rhaid talu'r balans trwy arian parod neu gerdyn debyd/credyd.
  5. Gellir defnyddio sawl tocyn anrheg yn yr un trafodiad hyd at werth y nwyddau sy'n cael eu prynu.
  6. Ni ellir cyfnewid tocynnau anrheg am arian parod.
  7. Ni ellir dychwelyd tocynnau anrheg nad oes eu heisiau ac nid ydynt yn ad-daladwy.
  8. Mae Siop Amgueddfa Ceredigion a’r Ganolfan Groeso yn cadw'r hawl i wrthod derbyn tocyn anrheg y mae'n ystyried yr ymyrrwyd ag ef, ei fod wedi’i ddyblygu, ei ddifrodi neu yr amheuir ei fod fel arall wedi’i effeithio gan dwyll.