Fe Ddigwyddodd yn Aber
Ewinedd Diva
Ar un adeg bu’r adeilad hwn yn gartref i Ysgol Llywio Aberystwyth lle bu Sarah Jane Rees yn dysgu. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1865 o dan ei henw barddol Cranogwen. Fe’i dyfarnwyd yn un o’r pump ‘arwres gudd’ orau yn rhestr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru o 100 o Fenywod Cymreig a ddewiswyd i ddathlu cyfraniad menywod i fywyd cenedlaethol Cymru yn 2018. Mae Mair Jones yn disgrifio bywyd anhygoel Sarah tra bod Jane Hoy yn siarad am ei buddugoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1865. Mae Lynne Blanchfield yn darllen darnau o gerddi Cranogwen ac yn myfyrio ar ei cherddi.
Wrecked
Mae Rosie a Sarah, sylfaenwyr clwb nos misol ‘Wrecked’ a gynhelir yn y Clwb Cychod ar Draeth y De, yn sgwrsio am eu profiadau o ddarparu man cyfeillgar i lesbiaid.
Mae'r gerdd a'r gân Lesberados yn seiliedig ar straeon a rannwyd gan rai o ffyddloniaid Wrecked a gymerodd ran mewn gweithdy hanes llafar.
Yr Hen Goleg
Adeiladwyd yr adeilad ysblennydd hwn ar lan y môr fel gwesty yn wreiddiol ond daeth yn rhan o'r Brifysgol ym 1872. Dewch i gwrdd â Dorothy Bonarjee, y bardd Hindŵaidd a enillodd Eisteddfod y Brifysgol ym 1914 a Goronwy Rees, y Pennaeth rhwng 1953 - 1957.
Roedd Lynne Blanchfield yn fyfyrwraig yn Aberystwth a dychwelodd i fyw yma ar ôl iddi ymddeol, gan astudio Cymraeg yn yr Hen Goleg. Enillodd Lynne y Gadair Barddoniaeth yn Eisteddfod y Dysgwyr yn 2020 gyda’i cherdd Y Gors / The Marsh.
Sant Paul’s
Bu’r Methodistiaid yn llawenhau pan godwyd capel ar safle tafarn y Three Jolly Sailors, a nododd yr Aberystwyth Observer: “Nid yw’r diafol yn gwneud lle i Dduw yn aml.” Caeodd y capel ym 1992 ac agorodd fel tafarn Yr Academy ym 1999. Cadwyd llawer o'r nodweddion gwreiddiol gyda'r Deg Gorchymyn a salm yn dal i gael eu harddangos ar y waliau.
Mae'r hanesydd lleol John Weston yn adrodd hanes y capel tra bod Ceredig Davies yn cofio mynychu angladd ei Yncl Jack a oedd yn ofalwr y capel.
Mae Gareth Revell yn rhannu ei straeon fel Rheolwr Cyffredinol yr Academi am bron i 21 mlynedd.
Y Promenade
Nid oes unrhyw ymweliad ag Aberystwyth yn gyflawn heb fynd am dro ar hyd y Prom! Mae'r hanesydd lleol John Weston yn adrodd rhai o brofiadau'r twristiaid cynnar a oedd yn gwerthfawrogi buddion iechyd bod wrth lan y môr gymaint ag yr ydym ni heddiw.
Y Prom yw'r llwyfan perffaith ar gyfer digwyddiadau. Mae Jane Hoy yn mynd â ni yn ôl i 1896 i gwrdd â Percy Meye, y dawnsiwr sgert a berfformiodd i Dywysog a Thywysoges Cymru.
Mae Jo Engelkamp yn cofio rhai o’r gwrthdystiadau Heddwch yn ystod yr 1980au tra bod sawl menyw a fynychodd ‘Gay Pride’ cyntaf Aberystwyth ar y Prom yn 2012 yn mwynhau hel atgofion am y digwyddiad.
Mae Naveed Arshad yn rhannu ei atgofion o dorri Record Byd Guinness ar gyfer y Ras Gyfnewid Bwa Dynol Hiraf ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, 2020
Cydnabyddiaethau a Diolchiadau
Diolch yn arbennig i'r holl wirfoddolwyr a gymerodd ran a rhannu eu straeon…
Jane Hoy: ymchwil a geiriau – Y Fodrwy Briodas, Percy Meye, a Sut daeth y rhyfel oer i Aberystwyth. www.aberration.org.uk Facebook: queertalesfromwales
Dr Susan Davies: ymchwil a geiriau - Dorothy Bonarjee
Mair Jones: ymchwil a geiriau - Stori Cranogwen
@QueerWelsh https://queerwelsh.tumblr.com/ & https://queerwelsh.blogspot.com/
Ceredig Davies – Atgofion o Sant Paul’s
John Weston: ymchwil a geiriau - Sant Paul’s, Twristiaeth Gynnar ac Ymdrochi ar y Prom.
Lynne Blanchfield: am ddarllen dyfyniadau o gerddi Cranogwen a’i thiwtoriaid, Felicity Roberts a Ioan Guile.
Rosie and Sarah, menywod Wrecked a phawb a ddaeth i weithdy Pride ar y Prom.
Cerys Hafana: cerddoriaeth ar gyfer Lesberados
Gareth Revell: atgofion o’r Academy
Jo Englekamp: atgofion o’r gwrthdystiadau Heddwch.
Naveed Arshad: atgofion o’r Bwa Dynol a dorrodd record.
Heulwen Davies, Llais Cymru, Jez Danks, Huw Evans a Steffan Rees am ddarllen rhai o’r trawsgrfiadau Cymreig.
Cara Cullen, Yr Hen Goleg
Cyfieithiad Cymraeg Amgueddfa Ceredigion