DYSGU AC ADDYSG
Does dim tâl am ymweld ag Amgueddfa Ceredigion. Dyma gyfle gwych i blant ysgol ddysgu am hanes a diwylliant Ceredigion.
Mae croeso i'r ysgolion a'r colegau ymweld â'r Coliseum ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau agor arferol (10am-5pm).
Benthyg bocs i’ch ysgol
Mae ein bocsys o gasgliadau ar gael i’w benthyg gan ysgolion a grwpiau addysgol. Mae bob un o’r 12 bocs a baratowyd yn barod yn cynnwys eitemau penodol o’n casgliad y gellir eu trin a’u trafod yn ddiogel gan weddu hefyd â thema addysgol arbennig.
- Cegin Oes Fictoria
- Coginio yn yr Ugeinfed Ganrif
- Dillad Oes Fictoria
- Yr Ail rhyfel Byd : Faciwis
- Yr Ail Ryfel Byd (Arteffactau)
- Yr Ail Ryfel Byd (Posteri)
- Cyn Trydan : Golchi
- Cyn Trydan : Goleuo
- Rhufeiniaid yng Ngheredigion
- Teganau
- Y Llaethdy / Ffermio
- Ysgol Oes Fictoria
Os hoffech chi gael benthyg bocs neu os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â Carrie Canham
Ymholiadau a threfnu:
- Carrie Canham (Curadur)
- 01970 633088
- carrie.canham@ceredigion.gov.uk / museum@ceredigion.gov.uk