Y GWIRFODDOLWYR
Dewch i helpu gwaith yr Amgueddfa trwy wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i'r Amgueddfa ac mae'n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd.
Mae gwaith y gwirfoddolwyr yn cynnwys:
- Croesawu ymwelwyr wrth y ddesg flaen
- Tynnu lluniau o'r casgliad a'i ddigideiddio.
- Helpu gosod arddangosfeydd a'u tynnu oddi wrth ei gilydd
- Helpu gyda digwyddiadau gyda'r nos a gweithdai
Beth yw'r fantais i chi?
- Cwrdd â phobl newydd a gweithio mewn tîm bach a chyfeillgar.
- Dysgu am hanes Ceredigion, Y Coliseum (cartref yr Amgueddfa) a'r casgliadau
- Gweld sut mae pethau'n gweithio yn yr Amgueddfa y tu ol i'r llenni
- Datblygu eich sgiliau a'u rhannu nhw
- Profiad gwaith unigryw yn yr Amgueddfa at eich CV.
Diddordeb? Cysylltwch ag Amanda yn yr Amgueddfa. Ebost – amanda.partridge@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633088 am fwy o wybodaeth. Fe wnawn ni eich gwahodd chi am sgwrs. Yna gallwn lanw ffurflen gais gyda chi a bydd angen 2 eirda. Cewch ddechrau gwirfoddoli gyda ni pan fydd gwaith gwirfoddol addas ar gael.