1. Hafan
  2. Casgliadau a Chymuned
  3. Ysgolion

DYSGU AC ADDYSG


Does dim tâl am ymweld ag Amgueddfa Ceredigion. Dyma gyfle gwych i blant ysgol ddysgu am hanes a diwylliant Ceredigion.

ysgolionMae croeso i'r ysgolion a'r colegau ymweld â'r Coliseum ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau agor arferol (10am-5pm). 

Benthyg bocs i’ch ysgol

Mae ein bocsys o gasgliadau ar gael i’w benthyg gan ysgolion a grwpiau addysgol.  Mae bob un o’r 12 bocs a baratowyd yn barod yn cynnwys eitemau penodol o’n casgliad y gellir eu trin a’u trafod yn ddiogel gan weddu hefyd â thema addysgol arbennig. 

  1. Cegin Oes Fictoria
  2. Coginio yn yr Ugeinfed Ganrif 
  3. Dillad Oes Fictoria 
  4. Yr Ail rhyfel Byd : Faciwis 
  5. Yr Ail Ryfel Byd (Arteffactau)
  6. Yr Ail Ryfel Byd (Posteri) 
  7. Cyn Trydan : Golchi 
  8. Cyn Trydan : Goleuo  
  9. Rhufeiniaid yng Ngheredigion
  10. Teganau
  11. Y Llaethdy / Ffermio
  12. Ysgol Oes Fictoria 

Os hoffech chi gael benthyg bocs neu os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â Carrie Canham

 

Ymholiadau a threfnu: