1. Hafan
  2. Digwyddiadau

DIGWYDDIADAU


 

Arddangosfa a Digwyddiadau yn Amgueddfa Ceredigion

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd parhaol, mae gan yr amgueddfa raglen fywiog o arddangosfeydd a digwyddiadau dros dro.

 

Gwybodaeth am docynnau 01970 612125


MARY MATHEWS YN Y COLISEUM

DYDD IAU

11yb

Ymunwch â’r pianydd Mary Mathews yn y Coliseum bob bore Iau o 11yb.

Bob dydd Iau mae Mary yn chwarae cymysgedd o ffefrynnau'r teulu. Gan blethu caneuon o sioeau a ffilmiau at ei gilydd mae hi'n gyflym yn creu atgofion o’r amser a fu.

Heb ei rhwymo gan unrhyw genre na chyfnod cerddorol, mae Mary'n archwilio cymysgedd eclectig o donau melodig i berfformio thema o'r wythnos o'i dewis.

Allwch chi ddyfalu'r thema?

Cerddoriaeth
01/01/2025 - pharhaol

DOSBARTH YOGA

DYDD MAWRTH

5.15yp - 6.15yp

Dewch i ddarganfod yr heddwch a’r bodlonrwydd sydd tu mewn i chi, yn dawelwch ein hen adeilad hardd.  Ioga ysgafn yn yr awditoriwm ar gyfer pobl ag anawsterau iechyd corfforol sy’n bodoli eisoes.

 

 

 

Cysylltwch â Lesley am fanylion 07929711451

 

Gweithdy
02/01/2025 - pharhaol