SIOP
Mae'r Amgueddfa'n cynnal siop unigryw sy'n gwerthu amrywiaeth dda o eitemau gwych sy'n darlunio gorffennol hynod Ceredigion.
Rydym yn cefnogi artistiaid lleol a chrefftwyr o'r ardal drwy werthu eu cynnyrch yn y siop.
Yn siop yr Amgueddfa cewch brynu cardiau post, lluniau, teganau arian poced, eitemau celf a chrefft, ffedogau a thyweli te sydd wedi eu seilio ar gasgliad yr Amgueddfa a llyfrau ffeithiol a hanesyddol. Mae'n lle gwych i ddod o hyd i anrhegion a swfenîrs.
Mae tocynnau anrheg bellach ar gael.
Mae ein tocynnau anrheg ar gael mewn gwerthoedd o £10, £20, £50 a £100. Gellir eu prynu yn Siop yr Amgueddfa a'r Ganolfan Groeso.
